Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 5 Ebrill
2017
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4261
Gweld Cofnod y Trafodion
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.58, atebodd Arweinydd y Tŷ cwestiynau ar ran Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig.
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 10 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Arweinydd y Tŷ ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiynau 2 ac 11 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 3.
Dechreuodd yr eitem am 15.01
Gwnaeth Ann Jones ddatganiad am Jess Fishlock.
Gwnaeth Simon Thomas ddatganiad am Henry Richard, pen-blwydd ar 3 Ebrill.
Gwnaeth Neil McEvoy ddatganiad am ddiogelu cerddoriaeth fyw yng Nghymru.
Dechreuodd yr eitem am 15.05
NDM6287 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 12 – Cwestiynau Amserol a Chwestiynau Brys' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Mawrth 2017.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 11 a 12, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.06
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM6227 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar leihau gwastraff.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai lleihau gwastraff drwy roi gofyniad ar gynhyrchwyr a manwerthwyr bwyd mewn cysylltiad â phecynnu bwyd.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
12 |
0 |
46 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 15.34
Dechreuodd yr eitem am 15.52
NDM6260
David Melding (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod yr hyn a elwir yn 'bedwerydd chwyldro diwydiannol' yn cynnig heriau a chyfleoedd i economi Cymru.
2. Yn nodi bod risg i tua 700,000 o swyddi yng Nghymru dros y ddau ddegawd nesaf o ganlyniad i awtomatiaeth.
3. Yn credu bod gan Gymru arbenigedd eisoes sy'n rhoi mantais gystadleuol mewn diwydiannau twf sy'n dod i'r amlwg.
4. Yn cydnabod bod angen inni, er mwyn manteisio ar y diwydiannau newydd hyn, ganolbwyntio ar ddulliau cyflym, hyblyg sy'n addasu'n rhwydd i amgylchiadau sydd wedi newid.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailedrych ar Strategaeth Arloesi Cymru gyda'r bwriad o sicrhau ei bod yn adlewyrchu maint a chwmpas yr amhariad rydym yn ei wynebu, ac yn ymrwymo i adolygiad strategol o gyfleoedd mewn sectorau newydd twf uchel, lle mae gan Gymru'r potensial i sicrhau ei bod yn dominyddu'r farchnad yn gynnar fel rhan o'i gwaith ar ddatblygu strategaeth economaidd newydd.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.45
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6268 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pa mor bwysig yw cynllunio sgiliau ymlaen llaw er mwyn diwallu anghenion y diwydiant adeiladu yn y dyfodol i ddarparu prosiectau seilwaith yng Nghymru a thu hwnt.
2. Yn credu bod angen diwygio proses gaffael y sector cyhoeddus yng Nghymru er mwyn elwa'n llawn ar botensial cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol pŵer prynu sector cyhoeddus Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gyflwyno Bil Caffael i'w gwneud yn ofynnol i gyrff y sector cyhoeddus ddilyn polisi Llywodraeth Cymru ar gaffael, er mwyn sicrhau bod adeiladu yn cael yr effaith gymdeithasol ac economaidd fwyaf bosibl;
b) sefydlu fframwaith cenedlaethol ar gyfer proses gaffael y sector cyhoeddus yng Nghymru er mwyn sicrhau y caiff y dyheadau yn Natganiad Polisi Caffael Cymru eu gwireddu;
c) codi lefelau gwariant seilwaith cyfalaf er mwyn hybu'r economi yng Nghymru, gan roi hwb angenrheidiol i'r sector adeiladu;
d) ystyried yr achos dros sefydlu Coleg Adeiladu Cenedlaethol i Gymru er mwyn meithrin sgiliau o ansawdd uchel yn y diwydiant adeiladu.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
1 |
35 |
48 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg):
Dileu'r cyfan ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
2. Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru yn datblygu Datganiad Polisi Caffael Cymru sydd wedi lleihau rhwystrau rhag caffael ar gyfer busnesau bach a chanolig ar hyd a lled Cymru.
3. Yn cydnabod yr angen i gynyddu gallu o fewn sector cyhoeddus Cymru i fanteisio i'r eithaf ar effaith gwariant caffael o fewn economi Cymru.
4. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i ddatblygu rhaglen newydd ar gyfer caffael er mwyn helpu i alluogi sector cyhoeddus Cymru i wneud defnydd deallus o bolisi a deddfwriaeth ar draws Cymru.
5. Yn cydnabod cynlluniau buddsoddi cyfalaf Llywodraeth Cymru a'r cyfleoedd caffael sylweddol sy'n cael eu cyflwyno gan gynlluniau Metro De Cymru a Metro Gogledd-ddwyrain Cymru; rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif; ffordd liniaru'r M4; adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy; gwelliannau i rwydwaith trafnidiaeth Cymru a phrosiectau seilwaith sylweddol eraill.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
21 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2.
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu mesurau a fydd yn rhoi contractau'r sector cyhoeddus o fewn cyrraedd cwmnïau Cymru, yn arbennig busnesau bach a chanolig.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
46 |
0 |
1 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6268 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pa mor bwysig yw cynllunio sgiliau ymlaen llaw er mwyn diwallu anghenion y diwydiant adeiladu yn y dyfodol i ddarparu prosiectau seilwaith yng Nghymru a thu hwnt.
2. Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru yn datblygu Datganiad Polisi Caffael Cymru sydd wedi lleihau rhwystrau rhag caffael ar gyfer busnesau bach a chanolig ar hyd a lled Cymru.
3. Yn cydnabod yr angen i gynyddu gallu o fewn sector cyhoeddus Cymru i fanteisio i'r eithaf ar effaith gwariant caffael o fewn economi Cymru.
4. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i ddatblygu rhaglen newydd ar gyfer caffael er mwyn helpu i alluogi sector cyhoeddus Cymru i wneud defnydd deallus o bolisi a deddfwriaeth ar draws Cymru.
5. Yn cydnabod cynlluniau buddsoddi cyfalaf Llywodraeth Cymru a'r cyfleoedd caffael sylweddol sy'n cael eu cyflwyno gan gynlluniau Metro De Cymru a Metro Gogledd-ddwyrain Cymru; rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif; ffordd liniaru'r M4; adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy; gwelliannau i rwydwaith trafnidiaeth Cymru a phrosiectau seilwaith sylweddol eraill.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu mesurau a fydd yn rhoi contractau'r sector cyhoeddus o fewn cyrraedd cwmnïau Cymru, yn arbennig busnesau bach a chanolig.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
17 |
4 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 17.28
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6286 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y rhan bwysig y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus o bwys ledled Cymru.
2. Yn nodi y dylai llywodraeth leol gryf ac effeithiol weld grym yn cael ei roi yn ôl yn nwylo pobl leol a'u cymunedau.
3 Yn cydnabod y rhan bwysig a gaiff ei chwarae gan fusnesau bach o ran llywio economi Cymru ac yn credu y dylai awdurdodau lleol gydweithio'n agos â'r gymuned fusnes i annog mwy o gydweithredu, arloesi ac entrepreneuriaeth.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
8 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 18.26
Dechreuodd yr eitem am 18.30
NDM6285 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Dinas-Ranbarth Bae Abertawe
Daeth y cyfarfod i ben am 18.52
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 2 Mai 2017